Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 14 Chwefror
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4083
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
I Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe?
Dechreuodd yr eitem am 14.39
Dechreuodd yr eitem am 14.57
Dechreuodd yr eitem am 15.17
Dechreuodd yr eitem am 16.06
Dechreuodd yr eitem am 17.02
NDM6234
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Achredu Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon) (Swyddogaethau Ychwanegol) (Cymru) 2017 yn cael ei llunio yn unol â'r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Ionawr 2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6233
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir
Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau
yn y Bil Addysg Uwch ac Ymchwil sy'n ymwneud â graddio addysg
uwch, cymorth ariannol i fyfyrwyr, y cynllun annibynnol ar
gyfer ymdrin â chwynion myfyrwyr a chymorth ar
gyfer ymchwil, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar
17 Tachwedd ac fe'i
diwygiwyd ar 1
Rhagfyr.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 5 Ionawr yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
8 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 17.31
NDM6237
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn:
1. Croesawu Adroddiad Hendry a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n cefnogi'r achos dros ddatblygu diwydiant ynni morlynnoedd llanw ym Mhrydain.
2. Cydnabod yr angen i Lywodraeth Prydain gysylltu â Llywodraeth Cymru yn barhaus wrth ddatblygu a gweithredu polisïau ar gyfer morlynnoedd llanw.
3.
Cydnabod, wrth sicrhau y trawsnewidiad i economi carbon isel, y
dylai Cymru gael cymaint o fanteision economaidd â phosib o'r
diwydiant ynni morlynnoedd llanw a thechnolegau llanw eraill, ar yr
amod bod prosiectau o'r fath yn derbyn y gymeradwyaeth
angenrheidiol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 18.34
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM6235
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn
cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2017-2018
(Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a
Throseddu).
Gosodwyd copi
o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
43 |
0 |
9 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 18.52
Daeth y cyfarfod i ben am 18.53
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 15 Chwefror 2017